Mae mis Ionawr yma unwaith eto, a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ddim ond 25 diwrnod i ffwrdd. Mae rhywun, rhywle, bob blwyddyn yn dweud “dyma fydd y gystadleuaeth fwyaf clos erioed”, ac mae wedi cael ei ddweud eto eleni.
Fodd bynnag, dydw i ddim o’r farn honno. Yn fy marn i, mae tair gwlad ymhell ar y blaen eleni ac yn anffodus, dyw Cymru ddim yn eu plith nhw. Lloegr yw’r ffefrynnau eto eleni, a does dim rhyfedd pam chwaith wrth edrych ar yr ystadegau. O’u 25 gêm ddiwethaf, mae’r rhosys cochion wedi bod yn fuddugol 24 o weithiau, er gwaethaf eu hymgyrch trychinebus yng Nghwpan y Byd 2015. Llwyddodd y Gwyddelod, fel y Saeson, i ennill pob gêm yng nghyfres yr hydref ac mae digonedd o chwaraewyr ifanc dawnus yn eu rhengoedd. Mae’r Alban yn ddiweddar wedi dangos nad cystadlu am y llwy bren fyddan nhw; ond am y prif dlws. Gyda tîm llawn nerth, pŵer a dawn, y tri thîm yma yw’r rhai i wylio eleni.
Cymru, Ffrainc a’r Eidal fodd bynnag… wel, dyma stori hollol wahanol. Er i Gymru geisio newid eu harddull chwarae, mae’n newid sydd wedi ei wneud gan ran fwyaf o dimau eisoes. Mae digon o ddawn wrth gefn Cymru, ond mae hefyd lu o anafiadau; does dim angerdd na chred yn meddylfryd y chwaraewyr chwaith, sy’n peri gofid i mi fel cefnogwr. Mae’n ymddangos bod y Ffrancwyr, fel roedd Cymru, yn dibynnu ar hen bennau yn lle enwau newydd cyffrous. Dyw’r Les Bleus heb edrych yn fygythiol ers iddyn nhw gael eu chwalu gan y Crysau Duon yng Nghaerdydd yn 2015. A’r Eidalwyr? Mae Benetton Rugby wedi bod yn gystadleuol yn y Guinness PRO14 eleni, sy’n dangos bod yr Eidalwyr yn datblygu eu chwaraewyr yn fewnol… ond yn anffodus dyw hynny’n golygu dim ar y llwyfan rhyngwladol eto. Dwi’n siwr caiff yr Azzurri un gêm gystadleuol, ond mae’r ysgrifennwr hwn yn hyderus mai llwy bren fydd yr unig wobr i’r Eidal eleni. Os mai dyna fydd yr achos, bydd hi’n anodd amddifadu Georgia o le yn y bencampwriaeth, yn enwedig ar ôl eu perfformiad styfnig yn erbyn Cymru yn yr hydref.
Felly, dyma fy rhagfynegiad cynnar am bwy fydd pencampwyr y gystadleuaeth yn 2018 (gan ystyried does nad oes yr un garfan wedi ei henwi eto):
Bydd Lloegr yn hawlio’r tlws am y trydydd tro yn olynol. Er gorfod wynebu taith heriol i Murrayfield ac o bosib ornest annifyr yn Stade de France, bydd ganddynt y fantais o groesawu Cymru ac Iwerddon i Twickenham a dwi’n siwr bydd y Saeson yn amddiffyn eu cartref yn llwyddianus. Er bydd y Gwyddelod yn llawn angerdd ar ddiwrnod Sant Patrick wrth herio Lloegr, dyw’r tîm Iwerddon yma ddim more bwerus â’r un a enillodd y bencampwriaeth y tro diwethaf. Fodd bynnag, mae’r gallu yno, ac mae’n bosib iawn mai gêm olaf y gystadleuaeth rhwng y ddau yma fydd yn penderfynu i ba ochr Môr Iwerddon aiff y tlws.
Roedd cyfle gan yr Albanwyr i hawlio buddugoliaeth enwog a hanesyddol dros Seland Newydd llynedd cyn rhoi crasfa go iawn i’r Wallabies o flaen dorf frwdfrydig Caeredin. Mae’r carfan yn llawn hunan-hyder ar hyn o bryd, rhywbeth na ellir ei hyfforddi; rhywbeth sy’n cael ei fagu ar ôl cyfresi o berfformiadau gwefreiddiol.
Her gyntaf yr Albanwyr fydd y bwysicaf ar gyfer eu hymgyrch. Petai tîm Gregor Townsend yn gallu tawelu Stadiwm y Principality (tasg ddigon anodd wrth ystyried bod y stadiwm wedi ei lenwi yn barod), a churo’r Cymry ar eu tir eu hunain, bydd hyder rhengoedd yr Alban yn chwyddo, a byddant yn ddi-ofn am weddill y bencampwriaeth… ond os mai colli fydd eu tynged, bydd y daith i Ddulyn yn un llawer fwy brawychus.
Bydd llwyddiant Cymru yn dibynnu ar lwyddiant pwy bynnag fydd yn chwarae yn safle’r maswr a’r canolwr. Gyda nifer enfawr o gyfuniadau ar gael i Gatland, yr her gyntaf fydd gwneud y penderfyniad cywir. Mae Biggar, Priestland, Williams, Patchell, Davies ac Anscombe i gyd wedi denu sylw’r hyfforddwyr yn ddiweddar, a gyda’r mwyafrif helaeth â’r gallu i chwarae yn y canol hefyd. Ond a fydd Gatland ddigon dewr i ildio’i ganolwyr cyhyrog i wneud lle i bêl-dreodiwr ychwanegol? Os mai ar Gwpan y Byd 2019 mae llygad Gatland, fydd dim dewis gan y prif hyfforddwr… ond siwr o fod ar draul y bencampwriaeth eleni.
Mae pawb ym myd rygbi yn ymwybodol bod Ffrainc yn dim anwadal iawn, ond nid yw eu perfformiad diweddar yn argoeli’n dda ar gyfer y gystadleuaeth. Mae rhywbeth ar goll yn Ffrainc ar hyn o bryd, a dim ond newid mawr yn y tîm hyfforddi all ddod â’r newid yna i’r amlwg. Dyw’r gleision ddim yn codi ofn ar dîmau fel yr oedden nhw yn y gorffennol. Ond gyda digonedd o wibwyr ar gael iddyn nhw, a photensial am bac enfawr… mae’n bosib iawn y bydda i’n bwyta fy ngeiriau erbyn diwedd fis Chwefror! Fodd bynnag, brwydr rhwng Ffrainc a Chymru fydd hi am y pedwerydd lle, gyda’r llall yn cymryd y 5ed!
Wrth i ni ddynesu at y Chwe Gwlad, ac wrth i bob carfan cael eu cyhoeddi, mae’n siwr bydd fy marn yn newid wrth i mi ddadansoddi bob tîm un ar ôl y llall. Diolch am ddarllen!